• Woman blinded by her ex-partner urges people to get help "before it is too late" as her attacker is jailed for life http://t.co/dCeoHRDK
  • Experiencing abuse in your relationship & need to talk? Call our national LGBT domestic violence helpline 2-8pm today 0300 999 5428
  • Do you need training in LGBT domestic violence issues? Email mail@broken-rainbow.org.uk or call 08452 605560 to discuss what you need
  • Message from UK's LGBT media asking people to fill in govt consultation on civil marriage equality, before its too late http://t.co/KJmmgmzS
  • Experiencing abuse in your relationship & need to talk? Call our national LGBT domestic violence helpline 10am-5pm today 0300 999 5428

Cynllun Diogelwch

Os ydych yn dioddef o drais domestig neu gam-drin, bydd creu cynllun diogelwch yn eich galluogi i feddwl am sut i wella’ch diogelwch os a phan fydd trais neu gam-drin yn digwydd eto. Ni fydd yn sicrhau eich diogelwch, ond gallai ei wella. Gall eich cynllun diogelwch personol gynnwys rhai o’r canlynol:

  • Os ydych chi neu’ch teulu mewn perygl dybryd, ffoniwch yr heddlu ar 999
  • Dywedwch wrth rywun y gallwch ymddiried ynddynt beth sy’n digwydd, a meddyliwch am sefydlu cyfrinair gyda naill ai ffrind, cymydog neu aelod o’r teulu y gallwch ddefnyddio i esbonio bod yna argyfwng a’ch bod angen cymorth ar frys.
  • Paratowch fag o ddillad, meddyginiaeth a nwyddau hanfodol eraill ar eich cyfer chi a’ch plant, e.e. copïau o drwydded yrru, tystysgrifau geni, pasbortau, llyfrau neu lythyron budd-daliadau, rhifau pwysig ac ati. Cuddiwch y bag yn rhywle diogel.
  • Os oes gennych gar, gwnewch set arall o allweddi a’u cuddio ble gallwch gael gafael arnynt os oes angen.
  • Dysgwch eich plant i ffonio 999 mewn argyfwng a beth fyddai angen iddynt ddweud (er enghraifft, eu henw llawn, cyfeiriad a rhif ffôn).
  • Ceisiwch gadw ychydig o arian a’ch cardiau credyd/debyd arnoch ar bob adeg – yn cynnwys newid ar gyfer y ffôn a bysus.
  • Os ydych yn credu bod eich partner ar fin ymosod arnoch, ceisiwch fynd i fan diogelach megis ystafell sydd â ffordd allan a mynediad at ffôn. Ceisiwch osgoi ystafelloedd sydd ag arfau posibl ynddynt, megis y gegin neu’r garej, ac ystafelloedd fel yr ystafell ymolchi ble mae’n haws iddynt eich caethiwo.
  • Cadwch unrhyw lythyron, negeseuon e-bost a thestun fel tystiolaeth o’r gamdriniaeth.
  • Os yw’ch partner yn eich anafu, ewch i weld meddyg neu i’r ysbyty fel bod cofnod o’r gamdriniaeth.
  • Os ydych yn bwriadu gadael eich partner, meddyliwch am sut i wneud hyn mor ddiogel â phosibl. Weithiau gall hyn fod yr adeg fwyaf peryglus i chi. Os yw’ch partner yn gwybod eich bod yn bwriadu gadael, gallant fod yn fwy treisgar ac ymosodol.
  • Cynlluniwch i adael ar adeg pan na fydd eich partner yno, ac os oes gennych warchodaeth gyfreithiol o blant, ewch â nhw gyda chi gan y gall achosi cymhlethdodau pellach os na wnewch.

Os ydych eisoes wedi gadael y berthynas ac yn dal i gael eich aflonyddu:

  • Dywedwch wrth rywun y gallwch ymddiried ynddynt beth sy’n digwydd.

  • Ceisiwch beidio ynysu’ch hun. Penderfynwch ar y llwybrau mwyaf diogel o’ch cartref i’r gwaith a’u defnyddio. Os na allwch wneud hyn, ceisiwch deithio gyda rhywun arall.
  • Sicrhewch fod eich cartref yn ddiogel. Ystyriwch newid eich cloeon a sicrhau bod pob drws a ffenestr yn ddiogel.

This page in other languages

We have safety plans available in other languages: