Broken Rainbow Quotes

Mae’n llinell gymorth yn rhywle gall pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol droi i drafod problemau gyda rhywun sy’n deall y materion diwylliannol a’r cyd-destun.

Rita Hirani, Prif Swyddog Gweithredol Interim

Mae yna gamddehongliad bod pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn mynd i bartis o hyd, yn gwario eu 'punt binc' a mwynhau eu hunain. Y gwir amdani i nifer o bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yw bod tlodi, gwahaniaethu, homoffobia a thrais domestig yn gadael ei farc ar ein bywydau. Rydym angen dod a hyn gerbron y cyhoedd a mynnu gwasanaethau fydd yn herio'r anghydraddoldeb hwn. .

Greg, llinell gymorth

Mae Trais Domestig lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn dipyn o sefyllfa 'eliffant yn yr ystafell': mae pawb yn gwybod ei fod yno, fwy na thebyg rydym yn adnabod rhywun sydd wedi ei brofi, ond mae gormod ohonom yn fodlon camu’n ofalus o'i gwmpas yn hytrach na wynebu'r gwirionedd. Efallai mai cywilydd sydd ar fai – rydym mor brysur yn trio perswadio'r byd bod pobl hoyw yn ddinasyddion da, cyfrifol fel na allwn dderbyn bod gennym yr un beiau a phawb arall. Ac eto byddai'n cymuned yn llawer cryfach o dderbyn hyn.

Iona Fiesta, golygydd OUTSKIRTS

Y trobwynt i mi oedd gallu gwahanu fy nghariad tuag at y fenyw wreiddiol y cwrddais â hi a'r ffaith na allwn ei newid hi, a gweld nad fy mai i oedd yr ochr ac ymddygiad negyddol yr oedd yn cyfeirio tuag ataf ac na fyddai'n dod i ben. Byddai ei hymddygiad yn parhau ac yn trosglwyddo i rywbeth arall a gwaethygu wrth i mi ddal i'w dderbyn. Mae trais domestig yn gwaethygu wrth fynd yn ei flaen. Wedi dechrau, ni fydd yn dod i ben oni bai y gweithredir yn bositif i'w atal.

Pauline,  Goroeswr trais domestig, Llundain


This page in other languages

We have this quotes page available in other languages: